2005/10/18
Blog un Pwnc?
Mae erthygl Dewi Prysor yn ddiddorol ac yn gwneud lot o sens. Mae'n debyg na fyddai Dewi'n cael ei ystyried o ddifri y tu fas o gylchoedd Cenedlaetholgar o achos y modd y cafodd ei gysylltu (yn annheg) a'r Free Wales Army a'u hymgyrch treisiol. Ond mae fe'n gwneud pwyntiau da iawn sydd yr un mor berthnasol y tu fas o'r Fro Gymraeg a thu fas o Gymru. Mae'n dangos sut y mae marchnad "skewed" yn difetha hawliau Tai trigolion yr ardal wedi'r Landlords yn gwerthu tai i bobl o'r tu fas.
Pan dechreuodd Cymuned ymoswyd arnynt am "hiliaeth" er mwyn ymosod ar genedlaetholdeb. Nonsens llywr yw hyn. Er gwaethaf y siofinistiaeth gul sy'n perthyn i sawl aelod y fudiad genedlaetholgar nid yw hynny yn gyfartal a hiliaeth a chasineb at leiafrifoedd. Mae gwrthseisnigrwydd yn ddiflasu dyn, ond mae'n dod mas o broblemau go-iawn Cymry.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment