2006/07/14

Rudyard Kipling

Mae cartwn yn Tribune heddiw sy'n fy atgyfodi fi am ba mor dda ydoedd Rudyard Kipling fel Llenor. Mae'n dyfynnu y gerdd The Young British Soldier, yn nes at llun o Doni Fler mewn gwisg Capten y Fyddin Fictoriadd.
When you're wounded and left on Afganistan's plains
And the Women come out to cut up what remains
Jest roll on your rifle and blow out your brains
An go to yer Gawd like a soldier...
Fel arfer gwelwyd Kipling fel Brydeiniwr rhonc a gefnogodd yr Ymerodraeth a dim mwy. Dyna'r farn eich bod chi'n debyg o'i weld ar Maes-e. Mae cywirdeb yn y barn ond mae'n lawer mwy amwys na hynny, fel y mae erthygl yma o India yn ei ganmoli yn traethu sawl agwedd bositif yn ei ysgrifen am rinweddau India a'i phobl. Bu Rudyard yn garedig iawn i'r milwr cyffredin Megis y gerdd Danny Deever sy'n tosturi dros milwyr cyffredin mewn sefyllfa erchyll sy'n dangos eu dyniolaeth. Mae stori enwog Sahib's War yn dangos rhogoriaethau dynion o India ac Awstralia dros dirywiad y Saeson. Sydd yn destun y stori fer Mary Postgate lle mae hen fenyw chwerw yn darganfod Awerynnwr ifainc o Almaenwr wedi ei anafu'n ddifrifol. Oherwydd marw ei fab yn rhyfel y byd gyntaf gwylio ef yn marw y wnaiff, yn hytrach na cael cymorth iddo.
Mae'n ysgrifennwr gwerth ei ddarllen.